Croeso i
Gymdeithas Aberaeron Society
Yn dathlu, dadansoddi a chyflwyno treftadaeth forwrol, bensaernïol a hanes cymdeithasol Aberaeron a’r ardal.
Mae Cymdeithas Aberaeron Society yn Elusen Gofrestredig gyda Chomisiwn Elusennau'r Deyrnas Unedig. Rhif yr Elusen yw – 1145491.
Mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu cofnodi gan Gomisiwn Elusennau'r D.U.
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyhoeddus i gadarnhau ein gweithgareddau.
Mae’r Gymdeithas yng ngofal gwirfoddolwyr ac fe’i hariennir gan arian aelodaeth a chyfraniadau.
Ein Nod
Sefydlwyd i barhau gyda gwaith Prosiect Treftadaeth Gymunedol Daucanmlwyddiant Aberaeron 2007 gyda’r nod o hyrwyddo treftadaeth a hanes lleol Aberaeron a’r ardal.
Ein gobaith yw parhau i dyfu mewn aelodaeth sy’n gweithredu ac yn rhyngweithio yn ein gweithgareddau sy’n cynnwys:
- Sgyrsiau o ddiddordeb lleol
- Ymweliadau a theithiau
- Clwb Ciniawa
Ein Tîm
Y rhai sy’n goruchwylio CAS yw:
Llywydd: Elinor Gwilym
Cadeirydd: Siân Stewart
Trysorydd: Gwyn Jones
Ysgrifennydd: Sandra Evans
Ymddiriedolwyr: Phill Davies, Steve Davies, Sally Hesketh, Mair Jones, Ray Williams.
Rhowch wybod os oes gennych ddiddordeb ymuno.