top of page

Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24

Writer's picture: Steve DaviesSteve Davies

Braint oedd gwahodd Catrin Stevens i gyfarfod mis Hydref y Gymdeithas. Mae Catrin yn hanesydd nodedig ac yn arbenigo mewn hanes merched.


Testun ei chyflwyniad oedd ‘Apêl Merched dros Heddwch 1923-24’. Mae hi a nifer o ferched blaengar yng Nghymru wedi bod yn rhan o grŵp ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ a ddaeth at ei gilydd wedi darganfod deiseb o 1923-24. Cafwyd hanes anhygoel y ddeiseb wrth iddi gael ei darganfod mewn cist dderw yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington, a’r ymgyrch i’w chael yn ôl I Gymru.




Gwireddwyd eu breuddwyd yn Rhagfyr 2022 pan gyrhaeddodd y ddeiseb (7 milltir o hyd) y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Mae arni 390,296 o lofnodion o bob rhan o Gymru ac mae’r gwaith o drawsgrifio'r holl enwau bron ar ben.


Apêl yw’r ddeiseb oddi wrth ferched yng Nghymru ar i ferched America alw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’ ac i America ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd newydd.


Disgrifiodd rôl degau o unigolion lleol a fu’n ddygn yn trefnu’r ddeiseb yn eu hardaloedd drwy gerdded o dŷ i dŷ. Bu'r rhain mor hanfodol i’r ymgyrch. Dangoswyd i ni enwau a llofnodion unigolion o Aberaeron a’r cyffiniau a fu’n trefnu a llofnodi'r ddeiseb. Creodd hyn gynwrf arbennig ymhlith y gynulleidfa.


Gallwch ddarllen mwy am yr hanes diddorol hwn ar-


Diolch, Mair Jones

1 view

Comments


bottom of page