top of page
Writer's pictureSteve Davies

Cymdeithas Aberaeron Society: Y Wibdaith Flynyddol

Cyflwynwyd ar ran Barbara Roberts, Aberaeron.


Does dim rhaid mynd ymhell i weld rhyfeddodau. Maent ar ein stepen drws ond yn aml rydym yn eu hanwybyddu ac yn chwilio am fan gwyn fan draw. Tro yma aethom mor bell ag Aberystwyth i Amgueddfa Ceredigion sy’n llawn o bethau difyr yn adlewyrchu bywyd unigryw ein hardal; ei diwydiannau a’i ddiwylliant.


A thu ôl i bob gwrthrych mae stori: Merched Beca, Ymfudo, Smyglwyr, Mordwyo, y Beirdd, y Dirwedd, Ffermio...


Roedd ‘na thlodi mawr ond roedd hefyd dyfeisgarwch a doniau, sgiliau a chrefftau, mewn oes pan roedd rhaid bod yn hunangynhaliol.


Roedd cwestiynau i’w hateb: Pryd adeiladwyd yr adeilad? Gan bwy? Pam?

Tynnwyd sylw hefyd at yr arddangosfa o’r Amgueddfa Brydeinig a gwaith chwech o artistiaid lleol, y Mwyafrif Byd-eang yn datgan eu hymateb i ‘r Ymerodraeth.


Ac wedyn roedd te yn y caffi.


Diwrnod i'w gofio.


Barbara


5 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page