top of page

Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron: Diweddariad BAM

  • Writer: Steve Davies
    Steve Davies
  • May 6, 2024
  • 1 min read

Roedd CAS yn falch iawn o groesawu diweddariad ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron gan gynrychiolydd lleol BAM, Gwen Clements, ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neithiwr.


Yn ôl y disgwyl, roedd digon o ryngweithio holi-ac-ateb bywiog oddi wrth y gynulleidfa trwy’r cyflwyniad, yn enwedig yng ngoleuni’r stormydd diweddar, y llanw uchel a’r gefnogaeth ragorol gan gontractwyr BAM a busnesau lleol i drigolion Pen Cei. Diolch yn fawr i Gwen am ateb yr ystod eang o gwestiynau ac am gadarnhau y cwmpas gwaith o fewn cytundeb BAM.


Daeth maint estyniad 250m Pier y Gogledd a’r rhodfa ganolog ar hyd yr asgwrn cefn yn amlwg o’r ddelwedd efelychiedig isod (o BAM). Heb fod yn sicr os mai twll par 3 neu par 4 yw....efallai y bydd yn amrywio gyda'r llanw!



Dangoswyd collage o luniau hanesyddol o'r harbwr o archif CAS hefyd gan Gwen. Bydd hwn yn cael ei drosglwyddo i Elizabeth Evans o Gyngor Tref Aberaeron i benderfynu lleoliad addas i'w arddangos yn y dref.



Roedd fersiynau dwyieithog o gylchlythyrau BAM hefyd ar gael (mae fersiynau Ch1 a Ch2 wedi'u hatodi er gwybodaeth). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau cyffredinol, gwaith sydd i ddod, mesurau rheoli traffig, erthyglau a lluniau.




Diolch eto i Gwen ac i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran.

 
 
 

Comentários


Cymdeithas Aberaeron Society

 

Coed Y BrynHeol Panteg

Aberaeron, Ceredigion

SA46 0DW

Cadw Mewn Cysylltiad

Dewch yn aelod!

  • Facebook

Cysylltwch â Ni

Am fwy o wybodaeth, estyn allan

E-bost:post@cymdeithasaberaeron.org

Symudol: 07749 254540

Ffôn: 01974 202322 (Ysgrifennydd)

bottom of page