top of page

‘Y Wal’ - ‘Na beth oedd gwledd! Sioe Ysgol Gynradd Aberaeron.

Writer's picture: Cymdeithas Aberaeron SocietyCymdeithas Aberaeron Society

‘Y Wal’. Dyna oedd teitl sioe Ysgol Gynradd Aberaeron eleni! Ond pa wal?

Wal fawr Tsiena? Wal Berlin? Neu Wal ‘Cofio Tryweryn’?


Na! Ein wal ni ein hunain yma yn Harbwr Aberaeron. Dyna beth oedd sioe. Swynwyd

y gynulleidfa ar ddwy noson wrth iddynt gael eu tywys trwy’r ddwy ganrif a mwy

diwethaf o hanes yr harbwr.



Dechreuwyd gyda’r enwog Alban Thomas Jones Gwynne yn cyhoeddi’r siarter a

arweiniodd at adeiladu’r harbwr a datblygiad Aberaeron fel tref forwrol a masnachol.

Clywyd am adeiladu’r llongau mawr ac atgoffwyd ni o enwau rhai o’r llongau hynny a

deithiodd i bedwar ban byd gyda bechgyn lleol ar eu bwrdd. Mae enwau’r llongau yn

fyw o hyd yn enwau tai Aberaeron heddiw!



Gwelwyd y dyrfa wrth yr harbwr yn ffarwelio wrth i deuluoedd lleol ymfudo i Ohio yn

1818 oherwydd gorthrwm tirfeddianwyr. Wrth gwrs mae’r cysylltiadau rhwng

Aberaeron ag Ohio yn parhau hyd heddiw.


Cofiwyd hefyd am bysgotwyr lleol ac yn arbennig y teulu Jenkins. Mor braf oedd cael

dau o’u disgynyddion o’r Ysgol yn adrodd eu hanes. Portreadwyd taith stormus nifer

o’r pysgotwyr hynny yn llawn hiwmor.



Mewn golyga hynod liwgar, atgoffwyd y gynulleidfa o’r hyn sy’n denu’r tyrfodd i

harbwr Aberaeron bob blwyddyn. O’r ffair ym mis Tachwedd i dynnu gelyn ar draws

yr harbwr yn yr haf, i’r carnifal unigryw a Gŵyl y Mecryll i gloi’r tymor gwyliau.

Trwy gyfrwng ffilm gwelwyd disgyblion y Dosbarth Meithrin yn ‘crwydro’r’ safle

adeiladu ac yn holi, “Pam fod angen y morglawdd newydd arnom?”



I gloi’r perfformiad, talwyd gwrogaeth i gwmni BAM am eu gwaith a’u dyfalbarhad

trwy ddawns fywiog.


Dyma oedd perfformiad a fydd yn dal yn y cof am amser hir a pa well ffordd o

drosglwyddo hanes ein tref i’r genhedlaeth nesaf. Llongyfarchiadau i bawb a fu

ynghlwm â’r sioe.


Mair Jones

114 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page