top of page
Prosiect Datblygu Gwledig
Aberaeron Ddoe, Heddiw ac Yfory
Yn 2011 dyfarnwyd grant o ffynhonnell Ewropeaidd, Prosiectau Datblygu Gwledig ‘Axis 3’ dros gyfnod o 18 mis.
Roedd y gwaith yn ffocysu ar bedwar prif weithgaredd a nodir ar y dudalen hon.
Amser i Edrych yn ôl
Ers 2007, sganiwyd miloedd o ffotograffau o bobl, lleoliadau a digwyddiadau Aberaeron. Caniataodd y cyllid i ni ddatblygu archif ffotograffau i bawb fwynhau.
Mae’r archif bellach yn ran allweddol o’r wefan newydd, gyda mynediad trwy Orielau wedi'u Curadu neu Chwilio'r Archif.
Amser i Rannu
Dechreuwyd cofnodi a recordio hanesion trigolion hŷn yn ystod y prosiect daucanmlwyddiant. Caniatawyd i ni ddatblygu Storiâu Digidol oddi wrth bob oed er mwyn creu cofnod clywedol a gweledol o fywyd Aberaeron.
Os oes gennych stori i gyfrannu - cysylltwch.
Amser i Edrych o Gwmpas
Fel rhan o’r prosiect daucanmlwyddiant, fe ddatblygwyd Llwybr Hanesyddol Aberaeron gan roi placiau ar adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol. Erbyn hyn gellir cael mynediad digidol i’r llwybr a gweld ffotograffau hen a newydd o Aberaeron.
Gallwch lawr lwytho Llwybr Hanesyddol Aberaeron i’w fwynhau yma. Mae Map Llwybr Hanesyddol y Dref yn eich tywys i bob plac gyda disgrifiad a hanes byr o bob lleoliad ar y daith.
Amser Bythgofiadwy
Rydym wedi cynnal arddangosfeydd yn rheolaidd yn ystod tymor yr haf ac yn 2012 y thema oedd ‘Plentyndod’. Datblygwyd arddangosfa arbennig lle y bu ysgolion lleol yn ymweld dros wythnos. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau e.e. gwrando ar storïau, cyfle i wisgo dillad Fictorianaidd, cymryd rhan mewn cwisiau o ffotograffau, gweld modelau o drenau a chlywed am brofiadau mewn ysgolion yn y 1950au.
bottom of page