Chwilio'r Wefan
Chwilio am destun ar y wefan a chynnwys blogiau yn unig (eithrio ffotograffau.)
9 items found for ""
- Cymdeithas Aberaeron Society: Y Wibdaith Flynyddol
Cyflwynwyd ar ran Barbara Roberts, Aberaeron. Does dim rhaid mynd ymhell i weld rhyfeddodau. Maent ar ein stepen drws ond yn aml rydym yn eu hanwybyddu ac yn chwilio am fan gwyn fan draw. Tro yma aethom mor bell ag Aberystwyth i Amgueddfa Ceredigion sy’n llawn o bethau difyr yn adlewyrchu bywyd unigryw ein hardal; ei diwydiannau a’i ddiwylliant. A thu ôl i bob gwrthrych mae stori: Merched Beca, Ymfudo, Smyglwyr, Mordwyo, y Beirdd, y Dirwedd, Ffermio... Roedd ‘na thlodi mawr ond roedd hefyd dyfeisgarwch a doniau, sgiliau a chrefftau, mewn oes pan roedd rhaid bod yn hunangynhaliol. Roedd cwestiynau i’w hateb: Pryd adeiladwyd yr adeilad? Gan bwy? Pam? Tynnwyd sylw hefyd at yr arddangosfa o’r Amgueddfa Brydeinig a gwaith chwech o artistiaid lleol, y Mwyafrif Byd-eang yn datgan eu hymateb i ‘r Ymerodraeth. Ac wedyn roedd te yn y caffi. Diwrnod i'w gofio. Barbara
- Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron: Diweddariad BAM
Roedd CAS yn falch iawn o groesawu diweddariad ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron gan gynrychiolydd lleol BAM, Gwen Clements, ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neithiwr. Yn ôl y disgwyl, roedd digon o ryngweithio holi-ac-ateb bywiog oddi wrth y gynulleidfa trwy’r cyflwyniad, yn enwedig yng ngoleuni’r stormydd diweddar, y llanw uchel a’r gefnogaeth ragorol gan gontractwyr BAM a busnesau lleol i drigolion Pen Cei. Diolch yn fawr i Gwen am ateb yr ystod eang o gwestiynau ac am gadarnhau y cwmpas gwaith o fewn cytundeb BAM. Daeth maint estyniad 250m Pier y Gogledd a’r rhodfa ganolog ar hyd yr asgwrn cefn yn amlwg o’r ddelwedd efelychiedig isod (o BAM). Heb fod yn sicr os mai twll par 3 neu par 4 yw....efallai y bydd yn amrywio gyda'r llanw! Dangoswyd collage o luniau hanesyddol o'r harbwr o archif CAS hefyd gan Gwen. Bydd hwn yn cael ei drosglwyddo i Elizabeth Evans o Gyngor Tref Aberaeron i benderfynu lleoliad addas i'w arddangos yn y dref. Roedd fersiynau dwyieithog o gylchlythyrau BAM hefyd ar gael (mae fersiynau Ch1 a Ch2 wedi'u hatodi er gwybodaeth). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau cyffredinol, gwaith sydd i ddod, mesurau rheoli traffig, erthyglau a lluniau. Diolch eto i Gwen ac i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran.
- Parêd Dydd Gwyl Dewi
Dyma ddetholiad o ffotograffau o orymdaith Gŵyl Dewi Ysgol Gynradd Aberaeron ers yr wythdegau cynnar. Mae’r digwyddiad yn un pwysig yng nghalendr blynyddol Aberaeron, ac sy’n dal i ddenu tyrfa luosog i’r dre bob mis Mawrth. Erbyn hyn mae nifer o drefi ar draws Cymru yn cynnal parêd, ond credir mai Aberaeron oedd y cyntaf! https://www.facebook.com/share/v/Ty8qGmJFkAfEqScT/?mibextid=KsPBc6
- Cranogwen
Mae Cranogwen ers blynyddoedd wedi bod yn arwres Gymreig anenwog. Mae yr awdures Jane Aaron yn gwneud llawer i wrthdroi hyn yn ei llyfr yn dwyn yr un enw a gyhoeddwyd yn 2023. Cawsom y fraint o wrando ar ei chyflwyniad yn Gymraeg yn ein cyfarfod mis Chwefror. Mae’r ddelwedd drawiadol ar glawr y llyfr o Cranogwen, yn ei phentref genedigol Llangrannog, gan yr artist lleol, Meinir Mathias. Gweler erthygl oddi tano gan Jane yn crynhoi bywyd anhygoel Cranogwen, neu Sarah Jane Rees, i roi iddi ei henw bedydd.
- Mair Rees: Atgofion Teulu Castell y Geifr (2011) (Cymraeg)
Yn seiliedig ar gyfweliad â Mair Rees, Castell y Geifr, Mehefin 2011. Yn ystod y 1920au roedd fy nhad-cu a mam-gu, Jos a Lil Rees, yn ffermio yn y Rhondda. Ar ôl y dirwasgiad cawsant gyfle i rentu Fferm Castell y Geifr yn Llanarth ac yn 1927 dyma nhw’n deithio yno ar gefn motor-beic gyda ‘sidecar’ a dilynodd y dodrefn, yr ieir, y ci a fy hen dad-cu a mam-gu mewn lori a chanddi teiars rwber soled. Ar y pryd roedd fy nhad yn 17 mlwydd oed a theithiodd ef i Aberaeron ar y trên: Nid yn unig oedd rhaid iddo edrych ar ôl ei frodyr a chwiorydd iau ar hyd y daith ond ef hefyd oedd yn gyfrifol am gludo’r anifeiliaid, ceffylau, gwartheg a moch ar y daith a barodd 17 awr. Ar ôl cyrraedd Aberaeron rhoddodd y stesionfeistr gyfarwyddiadau i’r plant ac bu rhaid iddynt gerdded gyda’r anifeilaidd yr holl ffordd i Gastell y Geifr. Ar hyd y ffordd daeth pobl allan i’w cyfarch a’u croesawu i’r ardal. Roedd pawb i weld yn gwybod pwy oeddent a ble roddent yn mynd. Yn rhyfedd, roedd Fferm Castell y Geifr yn wag ar gyfer fy nhad-cu a mam-gu am fod y tenantiaid blaenorol wedi symud i Aberaeron. Roedd Tom Lloyd Evans, y tenant blaenorol, yn ffermio moch ac yn allforio bacwn i Dde Cymru. Pan ddaeth y rheilffordd i Aberaeron, gwelodd Mr Evans ei gyfle a symudodd i Fferm Pengarreg a sefydlu busnes tebyg yno, gan ddefnyddio’r rheilffordd i gludo bacwn i drefi De Cymru. Roedd gan fy nhad stori ddoniol am y rheilffordd yn y 1940au. Roedd fy nhad ar bwyllgor rheoli y Co-op ac un diwrnod roedd angen lifft ar Jack Jones, rheolwr y siop, i deithio i Aberaeron er mwyn dal y trên i fynd i gyfarfod pwysig. Yn anffodus roedd y trên wedi gadael pan gyraeddasant y Stesion a dyma’r Stesionfeistr heb oedi yn ffonio stesion Ciliau Aeron ac o fewn ychydig o funudau roedd y trên wedi dychwelyd i Aberaeron er mwyn codi Jack Jones.
- Pendinas (Cymraeg)
Bryngaer Pendinas: Prosiect Partneriaeth ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).
- Cynog Dafis: I Lanbed i’r Pictiwrs ar y Trên (2011) (Cymraeg)
Am ei fod yn rhatach, y bws a ddefnyddiai’n teulu ni bob amser. Ond ar ddau achlysur mi ges fynd ar y trên o Abaeraeron i Lanbed, a hynny am yr un rheswm ddwywaith. Ond yn gyntaf rhaid son am y Pictiwrs. Ar nos Lun a nos Iau roedd y pictiwrs yn cael eu cynnal yn Neuadd Goffa Aberaeron, o dan gyfarwyddyd yr entrepreneur DC Lloyd Birmingham House. Ddwy noson arall byddai’r Cei yn cael yr un dangosiadau a Llanbed un noson a Dydd Sadwrn. Roeddwn i’n cael mynychu’r pictiwrs (un pictiwr bach a un pictiwr mawr, a’r Pathe News yn y canol) un waith yr wythnos. Ar y ddau achlysur dan sylw, rywbryd tua diwedd y 40au, roedd dau bictiwr arbennig o ddeniadol i’w dangos ar y nos Iau yn Aberaeron, sef Robin Hood a Just William’s Luck. Yr aflwydd oedd eu bod yn clasio gyda’r Gymanfa Ganu. Roedd colli’r Gymanfa wrth gwrs mâs o’r cwestiwn, yn enwedig i fab y gweinidog. Fe drefnodd Mam felly, chwarae teg iddi, drît arbennig i finnau a ’mhennaf ffrind, Eryl Jones, Brodawel, sef trip ar y trên i Lanbed ar Ddydd Sadwrn i weld y ddau bictiwr. Brith gof sy gen i. Eistedd yn y compartment ac o dro i dro hwpo’n pennau drwy’r ffenest i weld yr injian yn y pen blaen, a chael llond ein llygaid o lwch yn wobr am fod mor ffol. Cafwyd blas anghyffredin ar y ddwy ffilm wrth gwrs. Ond roedd gan ein teulu ni gysylltiad agos am reswm arall â byd y trên. Drws nesaf i’r Mans yn Wellington Street, yn Gilvin, roedd gyrrwr y trên Mr Griffiths yn byw. Mi fydden yn cael mynd mewn gyda’r nos i gegin Gilvin drwy’r drws ochr. Rwy’n cofio dau beth yn arbennig. Un yw bod Mr Griffiths, yn wahanol i ni, yn cael swper wedi’i goginio ar ôl dod adref o’r gwaith, a’r aroglau amheuthun yn llenwi’r gegin. Yr ail beth oedd Mrs Griffiths yn smwddio crys pêl droed coch â rhif 8 ar ei gefn. Roedd Gordon Griffiths yn chwarae centre-forward yn nhîm amatur Cymru ar y pryd, a’i fam yn gorfod golchi a smwddio’i grys. Roedd ei frawd hŷn Stuart hefyd yn bêldroediwr o fri, yn chwarae, fel Gordon, i Aberystwyth, ond ambell dro i Aberaeron hefyd. Y brodyr Griffiths wrth gwrs oedd ’yn arwyr pennaf i. A diolch i’r trên y ces i’r fraint o fyw drws nesaf iddyn nhw. Cynog Dafis Awst 2011
- Henry Jones: Y Stesion a’r Hen Fysiau (2011) (Cymraeg)
Prysurdeb y iard oedd yn taro dyn gynta’ – loriau masnachwyr lleol yn cywain glo, blawd a nwyddau eraill o bob math i siopau, busnesau ac unigolion yn y dre. Y lorïau rwy’n cofio orau yw rhai Josiah Jones, Glanmor Stores, a Dewi (Glo) Jones, Regent Street. Dewi oedd yn cludo y bagiau, llythyron a pharseli o Swyddfa’r Post i ddal y trên ddiwedd y pnawn. Cofiaf Ivor Jenkins (minnau yn gwmni ac ychydig o help) yn mynd â bocsed o gimychiaid wedi eu pacio mewn blawd llif i’w danfon i Billingsgate ar y trên chwech. Bore wedyn byddent yn Llundain mewn pryd i ddal y farchnad. ‘Rown yn meddwl fod Ivor yn lwcus drosben i gael gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg i fynd i bysgota gyda Mr Twm (Crescent) Morgan ar y ‘La Belle’. Yn ystod misoedd yr haf byddai ymwelwyr yn treulio’u gwyliau yn y ‘Camping Coach’. Yn y iard tu ôl i’r Monachty roedd depo bysiau Crosville. (Rhai coch rwyf yn cofio gynta – a’r Western Welsh yn las.) O tu allan i’r hen Geltic a Manchester House y safai’r bysiau i fynd i Aberystwyth, Aberteifi a Llambed. Byddai’r Western Welsh yn rhedeg i’r Cei a Llandysul a Chaerfyrddin, a bysiau James bob dydd a.m. / p.m. i Rydaman trwy Lambed. Yn 1946/47 byddai tua hanner dwsin o ni gryts Aberarth yn dal y bws 11 a.m. i Aberaeron. I mewn â ni at Enoc y barbwr i gael ein cneifio – byddem i gyd yn dal yr un bws yn troi ‘nôl am Aberystwyth. Ni fuodd barbwr cyflymach nag Enoc! Roedd ei weld yn eillio cwsmer yn brofiad brawychus – atsain o Sweeney Todd. Dylid nodi y nifer sylweddol o ddynion lleol oedd yn cael eu cyflogi ar y bysiau ac yn y stesion. Gwyddai pawb yn y dre pwy oedd y ‘drivers’ a’r ‘conductors’ – gallwn enwi nifer ohonynt hyd heddi. Dylid cofio bysiau bach Llyseinon yn eiddo Dafydd Evans a’i feibion. Roeddent yn rhedeg gwasanaethau gwledig, e.e. i Lambed ar ddiwrnod mart trwy Mydroilyn a Dihewyd. Y bysiau hyn gariai tîm ffwtbol Aberaeron ar hyd a lled Sir Aberteifi. Nhw oedd yn ein cludo i Gaerdydd i weld Cymru’n chwarae; cafwyd nifer fawr o dripiau cofiadwy, a rhai fyddai’n well eu hanghofio efallai. Y trip mwyaf anturus oedd yr un i Lundain (1959) i chwarae tîm yn Chiswick – ond nid dyma’r lle i adrodd yr hanes hynny. Os methai rywun i gael trên neu fws i rywle roedd tacsi Moc Jenkins ar gael, dim ond bod digon o amser gan y sawl oedd eisiau. Nid oedd Moc o’r un dras ag Enoc. Mehefin, 2011Mehefin, 2011.
- Doris Jones: Atgofion (2011) (Cymraeg)
Yn seiliedig ar gyfweliad gyda Mrs Doris Jones, Mehefin 2011. Treuliais fy mhlentyndod yn ystod y 1930au ym Mhenparc a safai tu allan i Aberaeron i gyfeiriad Neuaddlwyd ac yn agos i’r afon Aeron a’r rheilffordd. Roedd fy nhair chwaer a minnau’n amseru’n symudiadau wrth ddyfodiad y trên. Collais fy mam yn ifanc iawn a roedd fy nhad yn gadael y tŷ am 5.30 y bore i seiclo i’w waith yng Nghapel y Groes (heb fod yn bell o Gribyn). Ei gyfarwyddyd i ni’r merched oedd i godi am 7.30 pan fyddem yn clywed y trên yn cyrraedd y groesfan, a dyna beth fyddem yn ei wneud bob bore. Mae gennyf nifer o atgofion o garedigrwydd criw y trên i ni’r plant. Un diwrnod roedd fy chwaer ieuengaf a minnau wedi mynd i hel mwyar duon ar bwys Wig Wen ac wrth chwarae roeddwn wedi rhoi sudd y mwyar o’m dwylo ar wyneb fy chwaer nes iddi edrych fel petai’n waed i gyd. Dyma’r trên yn cyrraedd a Williams y gard yn sylwi ar gyflwr fy chwaer. Ar unwaith fe stopiodd y trên a dod draw atom yn syth i sicrhau ei bod yn iawn! Yn aml byddwn yn dod adref o’r dref wedi fy llwytho ar ôl siopa a byddai Oswyn Evans bob amser yn stopio’r trên wrth y groesfan ar bwys y tŷ fel nad oeddwn yn gorfod cerdded o Holt Neuadd-Lwyd.. Roedd gennym berthynas a alwem yn Wncwl Dafydd, er nad oedd yn ewythr go iawn. Roedd Wncwl Dafydd yn archwilydd ar y rheilffordd a byddai’n dod weithiau yn rhinwedd ei swydd i Aberaeron. Byddai bob amser yn ysgrifennu i roi gwybod i ni a byddem yn cwrdd ag ef ar Holt Neuaddlwyd ac yn ddi-ffael fe roddai hanner coron yr un i’r pedair ohonom – swm anghyffredin o hael ar y pryd! Pan fyddai priodas yn digwydd yng Nghapel Neuaddlwyd, a bod y trên yn mynd heibio, byddai chwiban y trên i’w glywed a byddai’r chwibanu yn para am tua milltir heibio’r Capel. Digwyddodd hyn ar gyfer fy mhriodas i ac ar gyfer fy chwiorydd. Rwy’n cofio un damwain angheuol yn y 1950au. Roedd dyn a oedd yn adnabyddus i bawb fel Jim Llain yn crwydro ar hyd y lein fel y gwnâi yn aml rhwng Bryn pithyll a Llety Siôn. Roedd yn fud ac yn fyddar ac felly ni synhwyrodd fod y trên yn dod tuag ato ac yn anffodus methodd y gyrrwr stopio mewn pryd. Roeddem hefyd yn defnyddio’r bysiau rhwng Aberaeron a Llanbedr. Rwy’n cofio’n direidi ni fel plant yn procio un condyctor yn arbennig am ei fod mor ddiamynedd gyda ni. John poenus fyddem yn ei alw – gwell peidio rhoi ei enw iawn – ond byddem yn cael sbort trwy ddweud wrtho ein bod am fynd i Grey Hall yn lle Neuaddlwyd neu Black Gate, yn lle Clwyd Ddu. Rwy’n cofio hefyd adeg pan oedd Doreen, y ferch, yn teithio ar ei phen ei hunan i’r ysgol gynradd yn Aberaeron. Nid oedd ond tua pum mlwydd oed pan aeth un diwrnod ar y bws anghywir. Wrth i’r bws droi am Aberystwyth dyma Doreen yn sylweddoli ei chamgymeriad ac ar unwaith fe stopiodd y bws ac aros nes i’r conductor sicrhau ein bod yn ddiogel ar fws Llambed!