top of page
Stori Aberaeron Story
Beth yw hi?
Pwrpas prosiect ‘Stori Aberaeron’ yw i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Aberaeron mewn modd hawdd a gweledol i breswylwyr ac ymwelwyr. Cynhyrchwyd ffilm a gȇm, crëwyd mosäig, argraffwyd casgliadau o ffotograffau gan roi mynediad i’n harchif o hanes lleol i bawb..
Mae’n drist bod cyfran helaeth bellach yn ddigartref. Cyn cau'r Ganolfan Wybodaeth Dwristiaeth yn 2021, roedd yna Fainc Dreftadaeth yno wedi ei haddurno gan Lizzie Spikes. Roedd iddi sgrin ryngweithiol a roddai fynediad i adnoddau gwefan Cymdeithas Aberaeron yn cynnwys ffotograffau o longau a adeiladwyd yn Aberaeron a ffilm a gomisiynwyd o hanes y dref gan Gwmni Wȇs Glei. Roedd yno hefyd gȇm addas i bawb yn seiliedig ar gynllun unigryw'r dref. Mae bellach mewn storfa, ond gobeithio y gellir dod o hyd i gartref parhaol iddi yn Neuadd y Sir yn fuan.
Sut y’i hariannwyd?
Ariannwyd y prosiect gan grantiau amrywiol. Derbyniwyd £46,400 o Gynllun Treftadaeth y Loteri Genedlaethol - ‘Ein Treftadaeth’, £6,000 o Gynllun Nawdd Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a chyfraniadau o £500 oddi wrth Gyngor Tref Aberaeron a £4974 oddi wrth y Gymdeithas.
Rheolwyd y prosiect gan Virginia Lowe a Rosemary Phillips ar ran Cymdeithas Aberaeron Society.
bottom of page